Numbers 4

Cyfrifoldebau'r Cohathiaid

1Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi 3– pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed). 4Dyma gyfrifoldebau'r Cohathiaid dros bethau cysegredig y Tabernacl: 5Pan mae'n amser i'r gwersyll symud yn ei flaen, rhaid i Aaron a'i feibion ddod i gymryd llen y sgrîn i lawr, a'i roi dros Arch y dystiolaeth. 6Wedyn rhaid iddyn nhw roi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw, ac yna gosod lliain glas dros y cwbl. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r Arch yn eu lle.

7“Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros fwrdd yr Arglwydd
4:7 fwrdd yr Arglwydd Hebraeg, “bwrdd yr wyneb”. Roedd wyneb Duw yn ffordd o gyfeirio at bresenoldeb Duw ei hun.
, ac yna gosod arno y platiau a'r dysglau, y powlenni a'r jygiau sy'n cael eu defnyddio i dywallt yr offrwm o ddiod. Ac mae'r bara i aros arno bob amser.
8Wedyn maen nhw i orchuddio'r cwbl gyda lliain coch, a rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw wedyn. Yna gallan nhw roi'r polion i gario'r bwrdd yn eu lle.

9“Nesaf, maen nhw i roi lliain glas dros y menora sy'n rhoi golau, a'i lampau, gefeiliau, padellau, a jariau o olew sy'n mynd gyda hi. 10Yna rhaid iddyn nhw roi'r cwbl mewn gorchudd o grwyn môr-fuchod, a'i gosod ar bolyn i'w gario.

11“Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros yr allor aur, ac yna rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r allor yn eu lle.

12“Wedyn rhaid iddyn nhw gymryd gweddill yr offer sy'n cael ei ddefnyddio yn y cysegr, a'u rhoi nhw mewn lliain glas. Rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod amdanyn nhw wedyn, a'i gosod ar bolyn i'w cario.

13“Yna nesaf, rhaid iddyn nhw daflu'r lludw oedd ar yr allor, cyn rhoi lliain porffor drosti. 14Yna gosod ei hoffer i gyd arni – y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle.

15“Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl.

16“Mae Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i fod yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, y grawn ar gyfer yr offrwm dyddiol, a'r olew eneinio. Ond mae hefyd yn gyfrifol am y Tabernacl i gyd, a phopeth sydd ynddo, a'r cysegr a'i holl ddodrefn.”

17Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron: 18“Peidiwch gadael i dylwythau'r Cohathiaid ddiflannu o blith y Lefiaid. 19Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn marw wrth fynd yn agos at y pethau cysegredig, rhaid gwneud hyn: Rhaid i Aaron a'i feibion ddweud wrth bob dyn yn union beth ydy ei gyfrifoldeb e. 20A rhaid i'r Cohathiaid beidio edrych ar y pethau cysegredig yn cael eu gorchuddio, neu byddan nhw'n marw.”

Cyfrifoldebau'r Gershoniaid

21Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 22“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Gershoniaid hefyd 23– pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed). 24Dyma gyfrifoldebau'r Gershoniaid, a'r gwaith maen nhw i'w gyflawni: 25Nhw sydd i gario llenni'r Tabernacl a Pabell Presenoldeb Duw a'i gorchudd, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, y sgrîn ar draws y fynedfa i'r iard, 26y llenni o gwmpas yr iard, y sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard sydd o gwmpas y tabernacl a'r allor, a'r rhaffau, a phopeth arall sy'n gysylltiedig â'r rhain. Dyna'r gwaith maen nhw i'w wneud. 27Aaron a'i feibion sydd i oruchwylio'r gwaith mae'r Gershoniaid yn ei wneud – beth sydd i'w gario, ac unrhyw beth arall sydd i'w wneud. Nhw sydd i ddweud yn union beth ydy cyfrifoldeb pawb. 28Dyna gyfrifoldeb y Gershoniaid yn y Tabernacl. Byddan nhw'n atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.

Cyfrifoldebau'r Merariaid

29“Ac wedyn y Merariaid. Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o'u teuluoedd nhw 30– pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed). 31Dyma beth maen nhw i fod i'w gario: fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion a'r socedi. 32Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau, a phopeth arall i'w wneud â'r rhain. Rhaid dweud wrth bob dyn beth yn union mae e'n gyfrifol am ei gario. 33Dyna waith y Merariaid – eu cyfrifoldeb nhw dros Babell Presenoldeb Duw. Maen nhw hefyd yn atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.”

Canlyniadau'r Cyfrifiad

34Felly dyma Moses ac Aaron a'r arweinwyr eraill yn cynnal cyfrifiad o deuluoedd y tri clan oedd yn perthyn i lwyth Lefi – y Cohathiaid, y Gershoniaid a'r Merariaid. Niferoedd y dynion rhwng tri deg a phum deg oed oedd yn cael gweithio yn y Tabernacl. A dyma'r canlyniad:

Clan Nifer
Cohathiaid 2,750
Gershoniaid 2,630
Merariaid 3,200
Cyfanswm: 8,580

Roedd Moses ac Aaron wedi eu cyfrif nhw i gyd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.
49Roedd gan bob un ohonyn nhw waith penodol neu gyfrifoldeb i gario rhywbeth arbennig. Yr Arglwydd oedd wedi dweud hyn i gyd wrth Moses. Dyna hanes y cyfrif, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses.

Copyright information for CYM